Bwyd Cymunedol
Yn y gorffennol, roedd ein cymunedau’n arfer tyfu, creu a gwerthu'r bwyd i gyd o fewn y plwyf; gyda ffermwyr lleol yn magu anifeiliaid, tyfu llysiau, a gwerthu ymenyn a llu o fwydydd eraill i bobl ein cymunedau, mewn marchnadoedd oedd yn cael eu cynnal yn lleol.

Rydym yn gweld fod y marchnadoedd yma wedi bod yn dirywio dros y blynyddoedd, gyda llawer mwy o bobl yn dewis mynd i brynu bwyd mewn archfarchnadoedd.
Mae Dolan am greu cyfleuon a fydd yn galluogi pobl gyffredin i werthu eu cynnyrch bwyd i'r gymuned leol, am brisiau teg. Bydd hyn yn galluogi pobl i ddefnyddio’r sgiliau sydd ganddynt i gael arian ychwanegol, ac i gyfrannu at eu economiau cymunedol.
Mae marchnadoedd yn lefydd byrlymus lle awn i gyfarfod a phobl ac i fasnachu. Mae eu effeithiau cadarnhaol cymdeithasol yn werthfawr iawn yn ogystal a'u effeithiau economaidd.
Drwy ddatblygu’r rhwydwaith fwyd i gyd fynd a'r marchnadoedd, mae Dolan yn grymuso cymunedau, a'r bobl sy’n byw ynddynt. Fydd y rhwydwaith yn hybu i gymunedau eraill ddilyn yr un llwybr, gan obeithio bydd pob cymuned yn gallu datblygu rhwydwaith bwyd ei hun yn y pendraw.
Diben cynllun bwyd cymunedol Dolan ydi’r canlynol:
-
Rydym am atgyfnerthu’r cadwyni cyflenwad bwyd uniongyrchol o’r cynhyrchwr yn syth i’r prynwr terfynol.
-
-
Rydym am sefydlu a/neu ddatblygu gofodau cymunedol i:
-
werthu bwyd a chynnyrch bwyd lleol,
-
dysgu a datblygu sgiliau i dyfu a creu bwyd a chynnyrch bwyd yn lleol ac yn dymhorol,
-
magu twf a amrywiad cyflenwad o fwyd lleol yn syth i’r gymuned leol.
-
-
Rydym am ddatblygu rhwydwaith gydweithredol ar draws ein cymunedau o fusnesau, unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd yn ymwneud ar sector fwyd yn lleol.
-
Rydym am adnabod cyfleon i greu prosiectau amgen drwy gydweithio ar draws ein rhwydwaith gydweithredol yn y sector fwyd lleol.
-
Rydym am greu partneriaethau newydd yn ein cymunedau i hybu datblygiad o’r sector fwyd lleol.
-
Rydym am i’r cynnyrch o fwyd lleol fod yn fforddiadwy i’r gymuned leol er mwyn galluogi i fwyd lleol fod y prif ffrwd o bryniant bwyd gan ein cymunedau.
-
Rydym am ddefnyddio’r sector fwyd i hybu egin entrepreneuriaeth yn ein cymunedau.
-
Rydym am ddefnyddio’r sector fwyd i alluogi pobl sydd ddim am fod yn bobl busnes – entrepreneuriaid sydd yn fwy na bodlon i fod yn amatur, gael gwerthu gwared y cynhaeaf o llysiau neu ffrwythau er mwyn hybu deunydd gerddi i dyfu bwyd cymunedol.






Cyfarfod Bwyd Dolan
Cynhalwyd gyfarfod ar y 30ain o Fawrth i drafod sefydlu rhwydwaith bwyd o fewn ardaloedd Dolan. Clywson ni hanesion busnesau lleol o ardaloedd Dolan, ac daeth nifer i drafod sut fysa rhwydwaith bwyd yn cael effaith cadarnhaol ar eu cymunedau nhw.
