Cynefin a Chymuned - Dod a bobl yn ôl at eu bro

Pan rhedwyd cwrs ‘Cynefin a Chymuned’ nol yn 2010, roedd her yn codi i wneud yn siwr fod twristiaid yn derbyn mwy na gwyliau arwynebol yn edrych ar tirluniau ac ati wrth ddod i Gymru. Roedd angen sichrau bod bobl oedd yn dod yma yn deall bod diwylliant gwahanol yn bodoli yng Nghymru, a bod hi hefyd yn ddiwylliant byw o fewn y cymunedau oeddent yn dod i’w gweld. Gofyn oedd y cwrs gwreiddiol ‘Ai tegan i’r tourist yw troedio’r tir’.


Mae’r gofyn am arweinyddion mynydda Cymraeg eu hiaith gyda gwybodaeth ddwfn am eu hardal leol wedi dod yn bwnc llosg yng Nghymru o fewn y misoedd diwethaf, gyda amryw o gyrff, yn cynnwys Cyngor Gwynedd yn codi gwreichyn dros y mater, gan ddweud bod angen dod o hyd i ateb i’r problemau yma, gan amlygu fod angen dechrau cymunedoli twristiaeth.


Mae Dolan wedi cael ateb i’r cwestiwn yma drwy cwrs Cynefin a Chymuned, cwrs sydd wedi datblygu o syniad ddaeth o ‘Cymunedau’n gyntaf’ o 2007. Mae’r ffaith bod yr ateb yma wedi cael ei grybwyll yn gyntaf gan gymuned yn dangos fod cymunedau’n dal yr atebion er mwyn cyfoethogi ei hun, a bod y brwdfrydedd yn bodoli tu mewn iddynt i wneud gwahaniaeth i ddiwylliant ac i’r iaith.


Yn y cwrs sydd wedi bod yn rhedeg yn ddiweddar, roedd yr unigolion yn cael deall mwy am sut siapwyd y tirlun o’u cwmpas, beth oedd trefn economaidd a diwydiannol sydd wedi arwain at y sefyllfa fel hyn ym mro Ffestiniog ac mewn broydd tebyg fel Llanberis, a hefyd dod i ddeall fod pob rhan o’r gymuned yn cuddiad stori, chwedl a hanes unigryw a phenodol sy’n egluro’r enw iawn arno.


Mewn oes lle mae’r iaith Gymraeg tan fygythaid, lle mae enwau brodorol ar dai, mynyddoedd ac afonydd yn cael eu seisnigo, lle mae hanes ddim yn cael ei basio ymlaen i’r genhedlaeth nesaf, a lle mae nifer o bobl yn symund mewn i gymdeithas heb wybod amdanom, mae cwrs fel hyn yn allweddol i ddangos gwerth cymuned, integreiddio pobl mewn i’r bro lle maent wedi eu magu neu wedi dewis byw, a chryfhau statws yr enwau sydd tan fygythiad o gael eu colli.


O ganlyniad penodol i’r gwaith wnaed ar gwrs Cynefin a Chymuned, mae cyrsiau o’r fath wedi bod yn cymryd lle yn flynyddol yn yr Alban hefyd, yn Ynys Skye, gan ddod a’r Gaeleg i’r amlwg i’r nifer sy’n mynd yno ar eu gwyliau. Gwelir hefyd bod nifer o gymunedau yn y gogledd, a hefyd ar hyd y gorllewin yn dechrau dangos brwdfrydedd i gynnal mwy o gyrsiau cynefin a chymuned eu hunain i ddathlu hanes economaidd, diwydiannol a diwylliannol ardal, gan arbennigo ar y math o Gymraeg sy’n cael ei siarad yn y rhannau yno o’r wlad.


Dyma ddisgrifiad o brofiad Dyffryn Ogwen (Bethesda) o’u cwrs Cynefin a Chymuned nhw ‘Roedd yr holl benwythnos yn gyfle i ddathlu cyfoeth ein cynefin a chymuned yn lleol a diolch i bawb fentrodd allan er fod y niferoedd Covid-19 ar gynnydd. Daeth dros 100 o bobol i’r holl weithgareddau rhwng nos Wener a phrynhawn Sul.’ Yn debyg i Gwrs Cynefin a Chymuned Bro Ffestiniog, cawsant gyfle i gerdded y fro a dod i ddeall sut datblygodd y gymuned dros y blynyddoedd a fu.