Myfyrdodau pen-ŵy…

Ceri Cunnington

#pam #gwaithcymunedol #osdimnipwy #tanygrish #BlaenauFfestiniog #Cymunedau #profiad #Cymru #economisylfaenol #penŵy

@CwmniBro @SiopOgwen @yr_orsaf


Ma rhywun wedi gofyn i mi ‘sgwennu blog i DOLAN. Menter newydd cyffrous sydd, dwi'n meddwl, yn mynd i fod yn gam enfawr ymlaen tuag at gyd-greu dyfodol gwell. Ond yn anffodus be sydd yn fan hyn ydi myfyrdodau Pen ŵy canol oed sydd yn trio cyfiawnhau, cymryd stoc a gwneud synwyr hunangyfiawn o’i ‘waith cymunedol’ ......a digwydd bod dwi newydd agor yn e-byst a ‘consultation’ arall gan Lywodraeth ar sut i weithio efo cymunedau...........................

Ges i fy magu yn Nhanygrisiau neu Tangrish, milltir lawr ffordd o Blaenau Ffestiniog. Nofio fel plant yn llyn Tangrish a neidio a deifio off y dam. Y llyn sy'n bwydo'r pwerdy hydro enfawr. Oedden ni'n cael yn hel o ‘na bron pob dydd yn ystod yr haf a ddim cweit yn deall pam.

Yn 7 neu 8 oed dwi'n cofio cael yn dragio gan mam i fynd i brotestio efo hi a criw o bobl leol eraill tu allan i giatiau Power Station Niwcliar newydd Traws. Dim rili syniad pam o ni yna ar y pryd, ond oedd y placards yn cŵl.

Do’ ni ddim cweit yn deall pam oedd criw o hogia hyn Cambrian teras yn dangos i ni sut i godi dau fys, codi llaw a troi ‘rownd a dangos ein tinau i'r estroniaid oedd yn mynd heibio’r stryd ar y trên bach. Trên oedd yn arfer mynd a llechi i Port ond rwan yn cario pobl pob dydd i syllu lawr arna ni o'i carijis piws. 'Blydi Tourists posh' di nhw medda’ dad.

Saesnes ydi mam, dod i fyw yma yn y 60s hwyr fel hipi a chael ei hudo a chymhathu yn naturiol i'r cynefin a chymuned arbennig. Dad yn döwr, yfwr, darllenwr, dyn glo a chwarelwr o dro i dro. Mam yn dysgu Cymraeg a dod yn weithiwr ieuenctid, cynghorydd tref, cwnselydd, dynes lolipop ac yn gwneud 'home help' efo Anwen drws nesa' a gofal i henoed y pentre. Magwraeth braf a lwcus iawn wedi siapio gan y gymuned o ni rhan ohoni.

Clwb ieuenctid hen ffasiwn gymunedol yn y pentre efo ‘Prinsi’ i’n tywys ni. Cyfle i gymdeithasu'n rhydd a siapio cynllunia’ a smentio cyfeillgarwch a dyheadau i'r dyfodol, heb yn wybod i ni ar y pryd. Mae colli clybiau ieuenctid cymunedol yn ergyd a hanner i’n cymunedau ni.

Ysgol Uwchradd Y Moelwyn wedyn a chael profiad gwaith yn Llechwedd fel electrician er bod fi di cael gofyn i fynd i Theatr Ardudwy fel darpar thesbian.

Roedd dal yr hen lori army i Llechwedd pob bora am 6yb efo gweddill yr 'ogia chwaral yn dipyn o brofiad ac yn cysylltu fi efo'n nghymuned ac yn rhoi gwreiddia. A fyddai’n ddiolchgar i ‘Stan bach’ y fforman am byth am y cyfnod yna.

O ni yn un o ddosbarth 6 ola’ Ysgol Y Moelwyn. Be bynnag da chi feddwl o’r system addysg, fel colli clybiau ieuenctid, ma’ colli 6ed dosbarth yn ergyd mawr i Ysgol ac i’r gymuned.

Ymlaen wedyn i Goleg, Caerdydd, Bristol, Chroesor a Llanfrothen. Blynyddoedd gwyllt, gwych, a gwallgo’ efo'm mrodyr Anweledig a chyfnod ffodus eto i weld dipyn o Gymru a gweld darna’ bach o'r byd a setlo wedyn dros y mynydd o Tangrish’ yn Llanfrothen.

Dechrau joban ‘go-iawn’ fel ‘swyddog’ datblygu cymunedol i Gymunedau 1af yn Bowydd a Rhiw. Do’ ni ddim yn gwbod bod 'na ffasiwn le a Bowydd a Rhiw ‘na swyddogion yn gweithio yna!? O’ ni meddwl na’ Blaenau, Glanypwll, Manod, Tangrish a Llan oedd ‘na. Un Fro ac un bobl ydi o ia? Eniwe, job anhygoel, cael y fraint o weithio yn y gymuned er lles y gymuned oedd wedi rhoi gymaint i mi. Fel udodd rhywun; 'you actually get paid for giving a shit'

Roedd ysbryd swyddfa'r hen coop ar y pryd yn eithaf arbennig. Criw o bobl 'eitha' ifanc efo cefnogwyr a mentoriaid cymunedol galluog oedd yn ymddiried yndda’ ni. Pawb yn egnïol, lleol, byrlymus, llawn gobaith, uchelgais a meddylfryd iach at y gwaith oedda' ni neud efo'r moto ‘Reit job ni fan hyn, ydi neud yn hunain allan o job’

Roeddem ni'n llawn egni ac yn ddigon pell o biwrocratiaeth Gaerdydd a’r Pencadlys yn Gaernarfon i gael rhyddid i gario ‘mlaen efo pethau a hyder a ffydd i ddatblygu a chydweithio ar gynlluniau fel Antur Stiniog, Y Dref Werdd a chwrs Cynefin a Chymuned. Oedd o'n bell o fod yn berffaith ond sw' ni licio meddwl bod ni wedi dysgu lot o’n camgymeriadau a chael lot o hwyl.

Ar y pryd roedda' ni'n credu bod eu ‘amhosib’ nhw yn bosib, a dwi dal yn credu hyn yn 40ish oed.

Nath Llywodraeth Cymru tynnu'r plwg ar adnoddau craidd Cym 1af yn 2012 gan nad oedd yr ardal digon tlawd ddim mwy yn ôl ‘The index of Welsh deprivation gan Lywodraeth Cymru’. Index of Welsh Deprivation mo!?

Mae 'na botensial aruthrol yn ein cymunedau ar draws Cymru yr unig beth sydd angen ydi ychydig o hyder, ffydd, cefnogaeth ac adnoddau gan ein Llywodraeth.

Ym Mro Ffestiniog yn unig mae 'na tua 15 o fentrau a busnesau cymunedol yn cyflogi dros 200 o bobl yn cynnig nifer o gyfleoedd ac yn trio mynd i'r afael yn uniongyrchol a rhai o rwystrau a phroblemau lleol. Yn yr un gwynt mae nhw’n cyfrannu yn economaidd a chreadigol at dyfodol yr ardal. Creu cyfleoedd i fwynhau, dysgu, gweithio ac ella siapio gyrfa mewn meysydd creadigol, gofal, amgylcheddol, adeiladwaith, ynni a thwristiaeth gymunedol.

Union ru'n peth ar fusnesau teuluol lleol fel D&C, Roberts Ffestiniog, D&K, GEWS, Hughes Transport, Original Roofing Company, Siopa Pentra’ a llawer mwy sydd yn cyflogi cannoedd ac yn galon i’r gymuned.

Dyma ein cymuned ac economi sylfaenol.

Dwi'n meddwl bod o'n gwbl glir bod modelau datblygu economaidd a rhaglenni 'trechu tlodi' y llywodraeth wedi methu ein cymunedau ni. Dyna pam rhaid i ni gyd gymryd gwynt a chymryd cyfrifoldeb. Os ddim ni, Pwy? Os ddim ‘rŵan pryd?

Mae’r llyn a’r pwerdy Hydro lle oedd a’ ni nofio, neidio a deifio fel plant, yn rhan o gwmni ‘ENGIE’ sydd efo turnover o £331billion a ma nhw gwario £90miliwn ar y safle dros y ddwy flynedd nesa.

Ma’ tai'r pentra’ gyferbyn lle oedda ni’n chwarae, yn dioddef o’r tlodi tanwydd mwya yng Nghymru, tlodi, diffyg hyder a banciau bwyd yn bla. Sut? Pam?

Ma’ Traws, lle oedd yr hipis a’r plentyn yn protestio, yn mynd i gostio biliynau i dad-comisiynu, ei ail-adeiladu, troi mewn i ffatri sybmarins niwcs, neu i gyfro mewn sment Royals-Royce.

Peidiwn â chael ein dallu gan y malu cachu.

Mewn cymunedau ar draws Cymru, mae ein hadnoddau wedi, ac yn cael ei rhwygo a’i dwyn o’n dwylo ni yn ddyddiol. Mae rhaid i ni ail feddiannu ein hadnoddau, economi, hyder ac uchelgais o Blaenau i Blaina ac o ynni i dwristiaeth ac i gynhyrchu toilet rolls ym Mhenygroes.

Dwi gwybod bod fi neud camgymeriadau yn ddyddiol yn fy ngwaith a fy mywyd pob dydd. Rhaid i mi ddysgu gwrando yn well. Da ni gyd yn dysgu. Heddiw fwy nag erioed, gawn i ymddiried yn ein gilydd a chyd-weithio yn lle cwffio, achos mae yna rhywbeth ar droed ac yn yr aer yn trefi chwarelyddol Gogledd Cymru a’n cymuned o gymunedau thu hwnt. Mae’r hyder yn dychwelyd.

Fedrwn i cyd-greu dyfodol gwell? Wrth gwrs. Os ddim ni, pwy? Ac os ddim rŵan, pryd?

Reit nol at yr e-byst a’r consultations…..

Tangnefedd.



©2020 by Dolan. Proudly created with Wix.com