


yr argyfwng tai a thwristiaeth gymunedol
Mae bron i 60% o bobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai yng Ngwynedd;
Roedd 39% o dai a werthwyd yng Ngwynedd yn 2017/18 yn ailgartrefi;
Mae 6,849 neu 10.77% o stoc dai Gwynedd yn dai gwyliau neu’n ail gartrefi o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 2.56%.
Yn Nantlle, Blaenau Ffestiniog a Dyffryn Ogwen, mae mwy o gartrefi yn cael eu troi yn AirB&B

PWRPAS
-
Cadw stoc tai yn lleol
-
Datblygu busnesau gwyliau cymunedol dan berchnogaeth leol fydd yn creu gwaith twristiaeth gymunedol i bobl leol
-
Defnyddio’r holl elw tuag at gynllun i brynu ac adnewyddu tai cymdeithasol.
CYFARFOD
AGORED
Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus iawn ar y 16eg o Chwefror yn trafod yr argyfnwg tai a thwristiaaeth, a gweld beth oedd barn bobl i'r cynlluniau gwahanol roedd Partneriaeth Ogwen yn ei gynnig.
Byddwn ni'n dal i drafod y camau cywir ymlaen i ddelio gyda'r argyfwng mewn ffordd sy'n bodloni pawb yn y gymdeithas.

Mae Dolan yn ymwybodol sut mae twristiaeth yn elwa ar gyfoeth a harddwch ein hardal a mae hynny’n gynyddol wir yng nghyswllt stoc tai ein cymunedau sy’n cael eu datblygu’n AirB&B neu’n ailgartrefi.
Dyma realiti cymunedau ar draws Cymru ac ardaloedd eraill ar draws Prydain. Ein bwriad ni felly yw herio’r sefyllfa yma o’r gwaelod i fyny gan edrych ar fodelau perchnogaeth gymunedol o dai gwyliau.
A oes cyfle i ni ym Mro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle a Dyffryn Ogwen i brynu tai gwyliau a’u rhedeg fel enghreifftiau o arfer da yn nhermau twristiaeth gymunedol a chadw’r holl elw i’w ailfuddsoddi yn lleol?
Cymunedoli Tai Gwyliau - Canllaw Dolan i helpu cymunedau i brynu a datblygu tai gwyliau.
Mae’r canllaw yma yn crynhoi gwaith sydd wedi digwydd fel rhan o brosiect Tai a
Thwristiaeth Cymunedol Dolan. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ymchwilio, ymgynghori a
chyd-weithio gyda mentrau cymdeithasol a chymunedau a busnesau twristiaeth cymunedol
dalgylch Dolan a thu hwnt. Ar sail yr ymchwil, rydym wedi bod yn cynllunio model o
berchnogi bythynnod gwyliau i’w rhedeg yn gymunedol a hynny ar sail pryniant dau eiddo – un at bwrpas rhentu yn lleol a’r llall at bwrpas ei redeg fel menter ty gwyliau cymunedol gyda’r olaf yn sybsideiddio’r llall. Rydym hefyd wedi llunio modelau o becynnau twristiaeth gymunedol.
Bwriad y canllaw yw helpu cymunedau i
-
adnabod adeilad addas yn eu cymunedau,
-
wybod sut i brynu neu werthu eiddo yn gymunedol,
-
gyllido’r pryniant trwy gynllun cyfranddaliadau cymunedol neu fenthyciadau,
-
ddatblygu’r fenter gydag egwyddorion twristiaeth cymunedol yn sail i’r gweithredu – o’r rheoli a marchnata i’r glanhau a’r gweinyddu o ddydd i ddydd,
-
greu elw cymunedol fydd ar gael i’w ailfuddsoddi mewn stoc tai cymdeithasol yn ein cymunedau.
Yr egwyddorion sydd wedi llywio’r canllaw yw –
-
Mae twristiaeth yn rhan o economi tair ardal Dolan ond credwn fod mwyafrif budd y diwydiant yn cael ei dynnu o’n cymunedau.
-
Mae Dolan eisiau meithrin diwydiant twristiaeth gymunedol iach ER BUDD ein cymunedau, nid ar draul ein cymunedau.
-
Mae Dolan yn cydnabod ac yn gwrthwynebu’r problemau sy’n dod o or-dwristiaeth a’i effaith negyddol ar gymunedau, iaith a diwylliant ein ardaloedd.
-
Mae Dolan yn cefnogi ymgyrchoedd sy’n galw am reoli twristiaeth I sicrhau fod cartrefi a chymunedau yn cael eu gwarchod am genedlaethau i ddod.
-
Mae gan bawb yr hawl i gartref a mae’r hawl sylfaenol honno uwchlaw unrhyw fentro cymunedol i sefydlu tai gwyliau cymunedol.
-
Mae Dolan hefyd yn credu fod angen i gymunedau elwa o’r diwydiant twristiaeth gan berchnogi elfennau ohono i greu budd cymunedol.
-
Cymunedoli Tai Gwyliau - Canllaw Dolan i helpu cymunedau i brynu a datblygu tai gwyliau.